Canabis meddygol

Mae canabis meddygol (y cyfeirir ato'n gyffredin fel "marijuana meddygol") yn cyfeirio at ddefnyddio'r planhigyn Canabis fel cyffur a argymhellir gan feddyg neu therapi llysieuol, yn ogystal â tetrahydrocannabinol synthetig (THC) a chanabinoidau eraill. Mae yna lawer o astudiaethau ynglŷn â defnyddio canabis mewn cyd-destun meddyginiaethol. Yn gyffredinol, mae angen presgripsiwn ar gyfer defnydd, ac mae dosbarthiad fel arfer yn cael ei wneud o fewn fframwaith a ddiffinnir gan gyfreithiau lleol. Mae yna sawl dull ar gyfer rhoi dos, gan gynnwys anweddu neu ysmygu blagur sych, yfed neu fwyta darnau, a chymryd pils THC synthetig. Roedd effeithiolrwydd cymaradwy'r dulliau hyn yn destun astudiaeth ymchwiliol gan y Sefydliadau Iechyd Cenedlaethol.
Mae defnydd meddyginiaethol o ganabis yn gyfreithiol mewn nifer gyfyngedig o diriogaethau ledled y byd, gan gynnwys Canada, Awstria, yr Almaen, yr Iseldiroedd, Sbaen, Israel, y Ffindir, a Phortiwgal. Yn yr Unol Daleithiau, mae 13 talaith wedi cydnabod marijuana meddygol: Alaska, California, Colorado, Hawaii, Maine, Maryland, Michigan, Montana, Nevada, New Mexico, Oregon, Rhode Island, Vermont a Washington; er mai California, Colorado, New Mexico ac Rhode Island yw'r unig daleithiau ar hyn o bryd i ddefnyddio "fferyllfeydd" i werthu canabis meddygol.
Ar hyn o bryd mae saith o daleithiau'r UD yn ystyried biliau marijuana meddygol yn eu deddfwrfeydd: Illinois, Pennsylvania, Minnesota, New Hampshire, New Jersey, Efrog Newydd a Gogledd Carolina. Mae gan South Dakota sawl deiseb hefyd er budd cyfreithloni marijuana meddygol.