Mwstard garlleg

Mae mwstard garlleg yn blanhigyn blodeuol dwyflynyddol yn nheulu'r Mwstard. Mae'r dail, y blodau a'r ffrwythau yn fwytadwy fel bwyd i fodau dynol, ac maen nhw orau pan yn ifanc. Mae ganddyn nhw flas ysgafn o garlleg a mwstard, ac maen nhw'n cael eu defnyddio mewn saladau a pesto. Fe'u defnyddiwyd ar un adeg fel meddyginiaeth.